Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (37)(v2) |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau (45 munud)
|
3. Dadl i geisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Parhad o Ofal i Fywyd fel Oedolyn (Ken Skates) (60 munud)
NDM4885 Ken Skates (De Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:
Yn cytuno y caiff Ken Skates gyflwyno Bil a fydd yn rhoi ar waith y wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.
Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot drwy ddilyn y linc canlynol:
http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_020.htm
|
4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4886 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi â phryder sylwadau Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, wrth ymateb i Raglen Adnewyddu’r Economi 2010, fod gan Gymru gymysgedd wael o sgiliau.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod pwysigrwydd darpariaeth sgiliau sy’n cael ei harwain gan y galw, yn unol ag argymhellion Adolygiad Leitch; a
b) cynnal asesiad llawn o’r angen am sgiliau arbenigol yng Nghymru yn y dyfodol.
Gellir gweld Rhaglen Adnewyddu'r Economi 2010 “Adnewyddu'r Economi – Cyfeiriad Newydd” yma:
http://cymru.gov.uk/docs/det/report/100705anewdirectioncy.pdf
Gellir gweld ymateb Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr i Raglen Adnewyddu’r Economi 2010 yma:
http://wales.gov.uk/docs/det/consultation/101216consreponse.pdf (Saesneg yn unig)
Gellir gweld Adolygiad Leitch yma:
http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/+/http:/www.hm-treasury.gov.uk/independent_reviews/leitch_review/review_leitch_index.cfm (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu "â phryder" o bwynt 1.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ar ddiwedd pwynt 1 mewnosod "ac felly’n cydnabod pwysigrwydd y ffaith bod Sgiliau Twf Cymru ar fin ailagor a’r Adolygiad o Gymwysterau sy’n parhau fel rhan o’r ymrwymiad sylweddol i sgiliau a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu".
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r £4.88 miliwn ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Recriwtiaid Newydd a'r £3 miliwn ychwanegol ar gyfer Sgiliau Twf Cymru a gyhoeddwyd yn y gyllideb derfynol ym mis Rhagfyr 2011.
|
5. Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM4887 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno system fandio ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd yng Nghymru;
2. Yn credu nad yw bandio’n rhoi darlun cyflawn o berfformiad ysgol a dylid cyfyngu ei ddefnydd i sicrhau bod unrhyw ysgol yn cael y cymorth angenrheidiol sydd ei angen arni i wella’r meysydd hynny a gaiff eu mesur gan y system fandio;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno proses werthuso adeiladol sy’n arwain at gymorth wedi’i dargedu i ddatrys perfformiad gwael mewn ysgolion.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro dealltwriaeth rhieni, athrawon a Llywodraethwyr o'r system fandio ac ystyried y pryderon a fynegwyd gan staff addysgu a chymryd camau eraill i egluro os bydd angen.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y camau y mae Awdurdodau Lleol wedi’u cymryd, drwy gonsortia, i ad-drefnu’r gwasanaethau gwella ysgolion ac yn credu y dylai cefnogaeth sy’n manteisio ar arbenigedd yr ymarferwyr blaenllaw ddod yn fodel ledled Cymru.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai safon yr addysgu ac arweinyddiaeth ysgolion yw’r ffactorau allweddol ar gyfer gwella ysgolion ac yn talu teyrnged i waith y proffesiwn addysgu yng Nghymru am sicrhau bod safonau wedi codi dros y degawd diwethaf.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd y system fandio hon, drwy ganolbwyntio ar berfformiad cyffredinol ysgolion, yn methu cydnabod perfformiadau unigol disgyblion ac adrannau yn yr ysgolion hynny.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn bryderus nad yw Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau penodol ar gyfer sut gall awdurdodau lleol a chanddynt nifer o ysgolion ym Mandiau 3, 4 a 5 wneud gwelliannau ymarferol. |
Cyfnod Pleidleisio |
6. Dadl Fer (30 munud)
NDM4884 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro):
Chwythu’r Chwiban: A oes cyfrifoldeb moesol ar Lywodraeth Cymru i geisio gwarchod y rheini sy’n chwythu’r chwiban ym mhob agwedd ar fywyd?
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2012